Cyfeirlyfr hynod ddiddorol yn disgrifio rhai o fodau a chymeriadau mwyaf enwog a thrawiadol byd chwedloniaeth. Fedrwch chi ddweud y gwahaniaeth rhwng 'pwca' a 'bwca', 'bwbach' a 'bwci bo'? Na? Wel, mae help wrth law. Pan ddaeth Graham Howells o hyd i gyfres o lawysgrifau mewn ogof bellennig ym mynyddoedd sir G�r, teimlai'n lled hyderus ei fod wedi darganfod gwaith Myrddin ddewin ein hun.