Pan fu Ifor Pritchard farw ar ddechrau gaeaf 2010, roedd wedi cyrraedd anterth ei ail-enedigaeth fel arlunydd. Dechreuodd greu ei ddarluniau olew yn ymwneud � bywyd chwarelyddol Eryri gwta chwe mlynedd cyn hynny ac yn ystod y cyfnod hwnnw defnyddiodd ei allu deheuig a'i ddychymyg dwys i gofnodi arferion a chaledi a sgiliau yr hen chwarelwyr.