17 o ffefrynnau gwerin gan brif gorau Cymru, a threfniadau gan gyfansoddwyr enwoca' Cymru.
Mae dau draddodiad pwysig yn cael eu cyfuno yn y recordiad hwn: traddodiad cyfoethog ein corau meibion ar y naill law, a chyfoeth ein caneuon gwerin ar y llaw arall. Dau draddodiad sy'n perthyn i bobl Cymru, dau draddodiad "gwerinol" yng ngwir ystyr y gair.
Does neb a wyr pa mor hen yw'r caneuon hyn, er ei bod yn amlwg fod rhai yn fwy diweddar na'r rhelyw. At ei gilydd, maen nhw'n adlewyrchu'r bywyd gwledig, amaethyddol, er fod yna gysylltiadau mwy diweddar a dinesig i ganeuon fel "Ffarwl i ddociau Lerpwl" a "Sosban Fach". Dwy thema arall amlwch yw serch a'r frwydr dros annibyniaeth Cymru, ond ceir yma hefyd hwiangerdd a chaneuon plant megis "Hen fenyw fach Cydweli";. 24 o ganeuon i gyd, wedi eu trefnu'n arbennig ar gyfer corau meigion pedwar llais.