Mae'r gyfrol hon yn ein cyflwyno i agwedd ar bersonoliaeth R. S. Thomas na welwyd ynghynt yn gyhoeddus efallai, sef ei hiwmor, ei ffraethineb a'i garedigrwydd. Atgofion ei ffrindiau a chymdogion a geir yma, ac mae sawl stori gofiadwy am y bardd arbennig hwn oedd hefyd yn enigma.