Collwyd dau aelod o gymdeithas y Parc ym Mhenllyn yn 2019; roedd hi'n golled i Gymru gyfan. Cawsai'r ddau eu hurddo â Medal T. H. Parry-Williams yn yr Eisteddfod Genedlaethol – yr anrhydedd uchaf am wasanaeth i ddiwylliant a bro. Mae hyn yn unigryw yn hanes unrhyw bentref arall drwy Gymru.