Golygiad newydd o nofel Elena Puw Morgan am fywyd un o'r sipsiwn Cymreig, yn cynnwys rhagymadrodd gan Dr Mererid Puw Davies a Dr Angharad Puw Davies, wyresau'r awdures. Dyma hanes cyffrous a helbulus teulu Romani, yn seiliedig ar sipsiwn go iawn o dras yr Woodiaid a'r Lovelliaid. Cyhoeddwyd gyntaf yn 1933.