Mae sgerbydau teuluol fel arfer yn cael eu cadw yn y cwpwrdd, ond mae sgerbwd teulu'r Bartis a'i draed yn rhydd. Nofel ddiweddaraf Dewi Prysor, a gyrhaeddodd restr fer Llyfr y Flwyddyn ac ennill gwobr Barn y Bobl â'i nofel ddiwethaf, Lladd Duw . Mae Cig a Gwaed yn nofel gignoeth sy'n holi ydi gwaed yn dewach na dŵr mewn gwirionedd.