Trydedd nofel yr awdures Sioned Wiliam, sy'n enw cyfarwydd ym myd comedi teledu ynysoedd Prydain. Mae'r nofel lawn hiwmor yn dilyn poblogrwydd y ddwy nofel gyntaf, Dal i Fynd a Chwynnu . Ailymwelir â chymeriadau Dal i Fynd ond nid oes angen i chi fod wedi darllen y nofel gyntaf i fwynhau hiwmor a dychan y stori newydd. Mae'n sefyll ar ei phen ei hun.