Y bedwaredd chwedl mewn cyfres o 5 llyfr, wedi eu hanelu at blant 7-9 oed sy'n medru darllen yn annibynnol. Mae'r Gwylliaid yn wyllt, mae eu dwylo'n goch gan waed ac maen nhw'n codi ofn ac yn torri'r gyfraith yn ardal Mawddwy. Mae'r Barwn Owain yn benderfynol o'u dal a'u cosbi, ond mae'r Gwylliaid yr un mor benderfynol o ddial arno.