Casgliad o gerddi'r diweddar Dic Jones, wedi'u dethol gan y Prifardd Ceri Wyn Jones. Ceir yma ddetholiad helaeth o'r cyfrolau unigol o farddoniaeth a gyhoeddwyd gan Dic Jones dros y blynyddoedd, ac mae'n cynnwys holl ystod ei gyfansoddiadau o'r penillion bychain bachog i'r awdlau meistraidd a enillodd iddo glod y beirniaid cenedlaethol.