Casgliad o farddoniaeth gan y Prifardd Donald Evans, a ysgogwyd gan y cynhesu byd-eang sy'n bygwth y blaned a'i phobl. I Donald Evans, mae'r bygythiad hwnnw'r un mor real i ffermwyr ei filltir sgwâr ag ydyw i eirth yr Arctig bell. Ond, er gwaethaf pob gofid, mae ganddo hefyd ffydd ddiysgog yng ngrymoedd gwydn y cread.