Efeilliaid 11 oed ydi Gruff a Gwen. Does dim yn fwy o hwyl ganddyn nhw na mynd ar wyliau yng ngharaf�n y teulu - ac mae'r garaf�n ei hun yn dipyn o gymeriad hefyd! Cyfrol sy'n cyplysu stori hwyliog gyda ffeithiau difyr am wledydd Ewrop wrth i deulu Gruff a Gwen deithio yn y gar�fan.