Yn y gyfrol hon ceir rhestr gynhwysfawr o gapeli Ynys Môn ac ychydig o'u hanes. Ceir manylion cefndirol ynghylch pensaerniaeth y capeli - roedd y capeli cyntaf yn adeiladau diaddurn syml, ond fel roedd yr enwadau yn magu nerth a hyder roedd hyn yn cael ei adlewyrchu mewn pensaerniaeth llawer mwy mawreddog yn ail hanner y bedwaredd ganrif ar bymtheg.