Cyfrol o ysgrifau ar gerddoriaeth werin gan un o'i phrif haneswyr yng Nghymru wedi eu casglu ynghyd. Mae'r gyfrol, sy'n cynnwys ysgrifau yn Gymraeg (20) a Saesneg (8), yn trafod pynciau megis carolau plygain, canu llofft stabal, y Fari Lwyd, y delyn a'r bibgod ymhlith pynciau eraill.