Nid ffordd o edrych yn ôl, ond ffordd o edrych ymlaen ydi hanes. Do, sefydlwyd Urdd Gobaith Cymru ganrif yn ôl - ond o ymgyrchoedd a gweithgaredd y mudiad hwnnw ymledodd ei ddylanwad i sawl maes a sefydliad arall. Stori'r can mlynedd prysur a fu sydd rhwng cloriau'r gyfrol hon, ond mae'r llygad ar y can mlynedd nesaf.