Casgliad hyfryd o ddeg ar hugain o ganeuon amrywiol i blant bach ar ffurf cryno ddisg, yn cynnwys alawon gwerin a chaneuon cyfoes gan artistiaid amrywiol, ynghyd â thaflen eiriau ddefnyddiol. Yn cynnwys Mi welais Jac y Do, Deryn y Bwn, Dau Gi Bach, Hen Feic Peni Farthing, Moliannwn, Heno Heno, Ble'r ei di?