CD newydd o ganeuon amrywiol i blant ychydig yn henach, gyda chyfraniadau gan y Boisbach, Derec Brown, Beti a Siân, Lisa Haf, Ysgol Cynwyd Sant ac Ail Symudiad. Mae na ddeuddeg cân i gyd, gan gynnwys 'Torth Fach Frown', 'Sioni Wynwns', 'Ffarwel Bwci Bo', 'Dilyn Man. United' a 'Croeso i Gymru'. Cynhwysir geiriau'r caneuon ar glawr y CD.