Yn dilyn llwyddiant ei gyfrol gyntaf am archeoleg gogledd-orllewin Cymru, dyma archwiliad o unarddeg safle difyr a dylanwadol yng ngogledd-ddwyrain Cymru a'r Gororau. Fel yn Cam i'r Gorffennol
, mae Rhys Mwyn yn egluro'r cyfan mewn arddull sgyrsiol, ddifyr, a chynhwysir lluniau du-a-gwyn, mapiau clir, cyfarwyddiadau eglur a llyfryddiaeth ddefnyddiol.