Sshh! Mae gan Cadi Wyn gyfrinach ... mae hi'n gallu siarad gydag anifeiliaid! Ar ei diwrnod cyntaf yn ei hysgol newydd, mae Cadi Wyn yn cael cwmni llygoden hynod sy'n gallu canu'n swynol. Ond dydy'r athrawon ddim yn hoffi'r ymwelydd bach gwichlyd o gwbl! Tybed a fydd Cadi'n llwyddo i ddod o hyd i gartref newydd i Lleucu'r Llygoden?