Yn 1978 cafwyd cystadleuaeth newydd yn yr Eisteddfod Genedlaethol, sef casgliad o atgofion am fywyd y Wladfa. Mae'r gyfrol hon, y drydedd i'w chyhoeddi, yn cynnwys detholiad o'r gwaith a wobrwywyd yn yr Eisteddfod Genedlaethol rhwng 1992 a 2007. Mae'r testunau yn amrywiol, yn cynnwys straeon yr aelwyd, ofergoelion, atgofion personol bywyd a gwaith, ac eisteddfodau'r Wladfa.