Hanes bywyd cyffrous 'El Baqueano' (John Daniel Evans, 1862-1943), ei atgofion a'i ddyddiaduron; roedd yn arloeswr ymhlith y Cymry a ymsefydlodd ym Mhatagonia, a theithiodd yn helaeth i archwilio'r tir wrth droed yr Andes cyn i'r Cymry ymsefydlu yno. Gyda nodiadau eglurhaol manwl, 17 llun du-a-gwyn a 4 map.