Cyfrol sy'n cyflwyno rhai o lawysgrifau cynharaf yr iaith Gymraeg ac sy'n cywain ymatebion un ar bymtheg o feirdd cyfoes iddynt. Y Mabinogi, Arthur, Taliesin, Dafydd ap Gwilym ... maen nhw i gyd yn enwog iawn yng Nghymru a thu hwnt. Ond ym mhle cafodd yr enwau hyn eu cofnodi mewn llyfr am y tro cyntaf? A phryd? Ac ar gais pwy? A pham?