Mae Ann yn dechrau ar bennod newydd yn ei bywyd ym Medi 1956 wrth symud o gefn gwlad Pen Llŷn i Fangor i ddilyn cwrs yn y coleg. Caiff lety mewn tŷ cysurus yn Rhes Brynhyfryd ym Mangor Uchaf - ond yn fuan iawn mae hi'n dechrau teimlo bod rhywbeth yn od ynglŷn ag ymddygiad ei landledi, Mrs Powell. A sut mae profiad Ann yn y coleg yn effeithio ar fywyd y Parchedig Prysor Hughes yn 1974?