Darlun cynhwysfawr o fywyd a bro'r bardd a'r awdur T. Llew Jones. Mae hanes bywyd Thomas Llewelyn Jones yn darllen fel nofel, ac mae iddi stori dda, fel ag a geir yn ei lyfrau ef ei hun. O fewn y stori hon y mae elfennau fel teulu, bro a chenedl a chymeriadau a sefyllfaoedd wedi eu plethu yn berthnasol i'w gilydd i greu diddordeb, edmygedd a difyrrwch.