Yn seiliedig ar gynnwys casgliad o lythyrau ysgrifennwyd gan Syr Ifan ab Owen Edwards a rhai o staff yr Urdd, mae'r gyfrol hon yn cyflwyno crynodeb o gefndir sefydlu a datblygu Urdd Gobaith Cymru drwy luniau hanesyddol, llawysgrifau a dogfennau.
Cynhaliwyd y gwersyll hamdden cyntaf yn Llanuwchlyn ym 1928, a meddiannwyd safleodd yn Llangrannog ym 1932 a Glanllyn ym 1950. Sefydlwyd Eisteddfod flynyddol yr urdd ym 1929, gwersyll i ddysgwyr Cymraeg a chyngrhair pêl-droed Cwpan yr Urdd ym 1941. Dilynodd wersylloedd rhyngwladol- ym 1948, a Cheltaidd ym 1949. Hefyd ym 1949, agorwyd Pantyfedwen, Y Borth, Ceredigion, fel canolfan breswyl oedd yn cynnal cyrsiau niferus o bob math a fynychwyd gan filoedd o bobl ifanc ac oedolion.
Urddwyd Syr Ifan yn farchog ym 1947, ac fe'i cyflwynwyd â'i bortread gan Alfred Janes ym 1956. Dyfarnwyd medal aur y Cymmrodorion iddo ym 1956 a dilynodd radd er anrhydedd gan Brifysgol Cymru ym 1959.