Llyfr yn cynnwys cais yr awdur i wahanu brenin Arthur y chwedlau oddi wrth ffigwr hanesyddol posibl, gan fwrw golwg ar gyd-destun oes y seintiau pan rwygwyd Prydain yn ddarnau gan luoedd yr Eingl a oedd â'u bryd ar drais, treisio a llosgi gan adael y Celtiaid brodorol mewn dryswch a blinder dirfawr. Gan awdurdod adnabyddus ar Chwedl Arthur.