Casgliad o gynnyrch gwych nosweithiau Bragdy'r Beirdd a sefydlwyd yn 2011 er mwyn trefnu nosweithiau barddoniaeth byw yng Nghaerdydd. Mae'r gyfrol hon yn cynnwys cerddi gan feirdd y Bragdy, cyfraniadau bywiog gan berfformwyr gwadd ac ambell i stori am rai o nosweithiau'r Bragdy yn y Steddfod.