Mae cysylltiad agos rhwng barddoniaeth a'r Rhyfel Mawr - a hynny ym mhob iaith. Mae'r gyfrol hon yn cynnwys astudiaethau ac enghreifftiau o waith beirdd a milwyr o'r gwledydd Celtaidd yn ystod y cyfnod hwnnw. Canodd y beirdd gwlad gerddi coffa i'r hogiau a gollwyd, yn adlewyrchu hiraeth a breuddwydion y bechgyn, gwerthfawrogiad o gyfeillgarwch clos ynghyd â dychan gonest.