Cyfrol yn agor maes ymchwil newydd; cesglir ynghyd am y tro cyntaf waith prydyddesau Cymru a ganai cyn diwedd y ddeunawfed ganrif. Ceir cerddi caeth a rhydd ar rychwant eang o themâu. Golygwyd pob testun gan nodi ffynonellau a manylion bywgraffyddol, gan osod y cerddi yn eu cyd-destun; cynhwysir geirfa gryno.