Mae mamoth mwstashog yn mynd � babi bach bywiog ar daith gyffrous un noson olau leuad. A fyddan nhw'n gweld teigr pum coesog a sgwarnog gyrliog ac udfil corniog, a falle, ond dim ond falle, arth sy'n ddannedd i gyd ... ? Ond i ble maen nhw'n mynd? A beth yw'r cysylltiad rhwng y daith a lluniau'r babi bach ar wal yr ogof?