Nid yw bywyd priodasol mor heddychlon ag y disgwyliodd Alun Morgan iddo fod. Mae'r peryglon yno o hyd a'r unig wahaniaeth yw eu bod erbyn hyn yn bygwth ei deulu hefyd. Ond pwy sy'n gyfrifol am y gweithgareddau erchyll? Ai hen elynion o isfyd Llundain sy'n dal dig ac am ddial, neu a oes ganddo elynion newydd bellach, yn nes adref?