Dyma'r drydedd yng nghyfres Astudiaethau Athronyddol dan olygyddiaeth E. Gwynn Matthews. Bydd y gyfrol hon eto yn cynnwys ysgrifau darllenadwy gan awduron blaengar yn y maes athronyddol. Mae'n trafod crefydd, y gyfraith a rheolau a gwleidyddiaeth a safbwyntiau athronyddol Wittgenstein a Rawls.