Mae Rosie wedi gwirioni ar y gyfres deledu 'Yr Estronos' ac am astronots, a phan mae llong ofod yn glanio yn yr ardd gefn, mae'n methu â chredu ei lwc. Nofel am greu cyfeillgarwch, am deithio'n ôl ac ymlaen mewn amser, am dyfu i fyny mewn byd cymhleth ac anodd, ac am wthio ffiniau'r dychymyg i'r eithaf.