Darganfyddwch beth sy'n digwydd i Noa a'r anifeiliaid yn yr arch. Mae anturiaethau Noa wedi'u darlunio'n hyfryd, ac yn cael eu hadrodd mewn arddull syml ond cyffrous. Mae'r llyfr mawr hwn yn ddelfrydol i'w rannu gyda phlant ifanc wrth iddyn nhw eistedd ar eich glin, neu i'w ddarllen yn uchel yn yr ystafell ddosbarth.