Hunangofiant difyr a darllenadwy Gwyn Griffiths, awdur a newyddiadurwr a fagwyd yn Nhregaron, un o ardaloedd Cymreiciaf Cymru. Gweithiodd i fudiad Urdd Gobaith Cymru, i bapur newydd wythnosol Y Cymro
ac i BBC Cymru fel swyddog y wasg, pennaeth y wasg a newyddiadurwr yn y cyfryngau newydd a phrofodd newidiadau mawr ym mywyd Cymru, y Gymraeg a'r cyfryngau. 56 llun.