Pwy yw'r arwr sydd ei angen ar Gymru heddiw? Mae criw o blant o Fannau Brycheiniog yn meddwl eu bod nhw'n gwybod yr ateb! Tasg ddigon syml yw dod o hyd i'r Brenin Arthur, ei ddeffro a'i berswadio i'w helpu i achub y byd. Ond does neb yn barod am yr antur fydd yn dilyn...