Anodd credu nad oes gan Mistar Urdd lyfr yn dweud ei hanes! Gyda'r Urdd yn dathlu canmlwyddiant yn 2022, dyma gyfrol sy'n dod â'r cymeriad rhwng dau glawr o'r diwedd. Mae Anturiaethau Mistar Urdd ar ffurf nofel graffeg, yn cynnwys tair stori gartŵn - 'Mistar Urdd a'r Allwedd Goll', 'Mistar Urdd yn Llangrannog' a 'Mistar Urdd yng Nglan Llyn'. Llyfr lliwgar i blant o bob oed!