Taith anifeilaidd wyllt a gwallgo drwy'r wyddor ar ffurf mydr ac odl. Pwy fyddai wedi meddwl y gallai'r wyddor fod yn gymaint o hwyl?! O'r armadilo i'r ystlum, mae yna greaduriaid go ryfedd i'w canfod o fewn cloriau'r gyfrol unigryw hon o farddoniaeth, wrth i Gwyn Thomas a Jac Jones fynd i hwyl go iawn a gadael i'w dychymyg ffrwydro'n reiat o liw ac odl.