Mae Albert y crwban anwes yn aml yn meddwl am y bywyd sydd y tu hwnt i'w ardd. I ble mae ei ffrindiau'n diflannu heibio i'r ffensys, y gatiau a'r waliau? Daw cyfle i Albert fynd ar antur go iawn ac i weld ei fyd o'r newydd. Ar ei daith, mae'n dod i sylweddoli nad oes man gwyn man draw bob un tro ... a bod cael ffrindiau da a chartref yn bethau i'w trysori. Addasiad Cymraeg.