Wrth i barsel annisgwyl gyrraedd cartref gofal ei fam, mae Sion yn gorfod cwestiynu pa mor dda yw ei adnabyddiaeth ohoni. Dyma stori Sion wrth i'r hyn y mae'n ei ddysgu am fywyd ei fam ysgwyd ei fyd yn llwyr ac wrth i Sali a'i gwên, a'i ffordd orgyfeillgar, newid ei fywyd am byth.