Cyflwynwch eich plentyn i fyd llythrennau a rhifau gydag abacws yr wyddor Cadwyn! O A am afal i Y am ysgol, ac o un i ddeg mae’r teclyn hwyliog hwn yn rhoi cychwyn cadarn i daith eich plentyn gyda’r wyddor a chyfri. Bydd eich plentyn bach yn mwynhau dysgu trwy chwarae!
Cefnogi datblygiad eu sgiliau cymdeithasol a chyfathrebu
Dechrau dysgu am lythrennau, rhifau ac adnabod lliwiau yn gynnar
Datblygu eu geiriau cyntaf a hyrwyddo llythrennedd