Yr 20 emyn Cymraeg mwyaf poblogaidd.
Yn ystod misoedd cynnar 1993, bu cannoedd o bobl ledled Cymru yn rhestru eu hoff emynau Cymraeg, a’u gosod mewn trefn o 1 i 20. Rhoddwyd y rhestrau hyn at ei gilydd, a thrwy gymorth cyfrifiadur cyrhaeddwyd at y casgliad hwn, yn nhrefn eu poblogrwydd.
Wedi cyrraedd y thestr derbynol, detholwyd o blith llyfrgell recordiau cwmni SAIN yr emynau hyn yn cael eu canu gan amrywiaeth o unawdwyr, corau a chymanfaoedd. A dyma ni – y casgliad cyntaf o’i fath o emynau gorau ein cenedl.